Llyfr Deuteronomium 12:3
Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â than, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinystriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw.
Read all of Llyfr Deuteronomium 12
Cross References
Exodus 23:13Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch ehw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
Deuteronomy 7:5Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinystriwch eu hallorau, a thorrwch en colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
1 Kings 15:13Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. º
2 Kings 23:14Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a-dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion. º
2 Chronicles 14:3Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:
2 Chronicles 31:1Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.