Llyfr Deuteronomium 12
1Nac ymoroler am gau-dduwiau. Dyma y deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.
2Gan ddinystrio dinystriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.
3Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â than, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinystriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw.
4Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw.
5Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:
6A dygwch yno eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, a’ch degymmau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymmau gwirfodd, a chyntaf-anedig eich gwartheg a’ch defaid.
7A bwyttêwch yno ger bron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhêwch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.
8Na wnewch yn ol yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddyw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.
9Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orphwysfa, ac i’r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
10Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddïogel:
11Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, eich degymmau, a dyrchafael-offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd.
12A llawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morwynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â chwi.
13Gwylia arnat rhag poeth-offrymmu o honot dy boeth-offrymmau ym mhob lle a’r a welych:
14Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o’th lwythau di, yno yr offrymmi dy boeth-offrymmau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.
15Er hynny ti a gei ladd a bwytta cig yn ol holl ddymuniant dy galon, yn ol bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a’r glân a fwytty o hono, megis o’r iwrch a’r carw.
16Ond na fwyttêwch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.
17¶ Ni elli fwytta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na’th win, na’th olew, na chyntaf-anedig dy wartheg, na’th ddefaid, na’th holl addunedau y rhai a addunech, na’th offrymmau gwirfodd, na dyrchafael-offrwm dy law:
18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
19Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.
20¶ Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwyttâf gig, (pan ddymuno dy galon fwytta cig,) yn ol holl ddymuniad dy galon y bwyttêi gig.
21Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o’th wartheg, ac o’th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchymynais i ti, a bwytta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.
22Etto fel y bwyttêir yr iwrch a’r carw, felly y bwyttêi ef: yr aflan a’r glân a’i bwytty yn yr un ffunud.
23Yn unig bydd sicr na fwyttâech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwytta yr einioes ynghyd â’r cig.
24Na fwytta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr.
25Na fwytta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ol, pan wnelych yr uniawn y’ngolwg yr Arglwydd.
26Etto cymmer dy gyssegredig bethau y rhai sydd gennyt, a’th addunedau, a thyred i’r lle a ddewiso yr Arglwydd.
27Ac offrymma dy boeth-offrwm, (y cig a’r gwaed,) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a’r cig a fwyttêi di.
28Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ol byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
29¶ Pan ddinystrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned attynt i’w meddiannu, o’th flaen di, a dyfod o honot yn eu lle hwynt, a’ phreswylio yn eu tir hwynt:
30Gwylia arnat rhag ymfaglu o honot ar eu hol hwynt, wedi eu dinystrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.
31Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd-dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau.
32Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega atto, ac na thyn oddi wrtho.