Llyfr Deuteronomium 16:3
Na fwytta fara lefeinllyd gyd âg ef: saith niwrnod y bwyttêi gyd âg ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aipht:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aipht holl ddyddiau dy einioes.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 16
Cross References
Exodus 12:8A’r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.
Exodus 12:14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn wyl i’r Arglwydd trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl trwy ddeddf dragywyddol.
Exodus 12:19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.
Exodus 12:32Cymmerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.
Exodus 13:3¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
Leviticus 23:6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.