Llyfr Exodus 12:19
Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Na fwyttêwch ddim lefeinllyd: bwyttêwch fara croyw yn eich holl drigfannau.
Cross References
Exodus 12:15Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
Exodus 12:48A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.
Exodus 30:33Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
Numbers 9:13A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw.
1 Corinthians 5:7Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: