The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 16

1Gwahardd llwynau a delwau. Cadw y mis Abib, a chadw Basc i’r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aipht, o hyd nos.

2Abertha dithau yn Basc i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno.

3Na fwytta fara lefeinllyd gyd âg ef: saith niwrnod y bwyttêi gyd âg ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aipht:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aipht holl ddyddiau dy einioes.

4Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhôed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.

5Ni elli aberthu y Pasc o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti:

6Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasc yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aipht.

7Yna y rhosti, ac y bwyttêi ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a’r bore y dychweli, ac yr âi i’th babellau.

8Chwe diwrnod y bwyttêi fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel-wyl i’r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.

9¶ Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo y crymman ar yr ŷd, y dechreui rifo y saith wythnos.

10A chadw wyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, âg offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.

11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo.

12Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aipht: a chadw a gwna y deddfau hyn.

13¶ Cadw i ti wyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win.

14A llawenycha yn dy wyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.

15Saith niwrnod y cedwi wyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylaw; am hynny bydd dithau lawen.

16¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwrryw o honot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar wyl y bara croyw, ac ar wyl yr wythnosau, ac ar wyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw.

17Pob un yn ol rhodd ei law, yn ol bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.

18¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.

19Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

20Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

21¶ Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed ger llaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti.

22Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.

← Llyfr Deuteronomium 15Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 17 →

Study Llyfr Deuteronomium 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334