Llyfr Deuteronomium 33:12
¶ Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn dïogelwch gyd âg ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 33
Cross References
Exodus 28:12A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
Deuteronomy 33:27Dy noddfa yw Duw tragywyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragywyddol: efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.
Judges 1:21Ond meibion Benjamin ni yrrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerusalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerusalem gyd â meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
2 Samuel 12:24A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef. º
1 Kings 12:21A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon. º
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.