Llyfr Deuteronomium 4:34
A brofodd un Duw ddyfod i gymmeryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aipht y’ngŵydd dy lygaid?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
33A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?
35Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Exodus 3:10Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharaoh; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aipht.
Exodus 6:6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
Exodus 9:20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharaoh, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai;
Exodus 10:21¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.
Exodus 13:3¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
Exodus 19:4Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.