Llyfr Exodus 19:4
Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 7:1Troi yr afon yn waed. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.
Deuteronomy 1:31Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.
Deuteronomy 4:33A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?
Deuteronomy 29:1I Dduw y perthyn pethau dirgel. Dyma eiriau y cyfammod a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammododd efe â hwynt yn Horeb.
Deuteronomy 32:11Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymmer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd;
Isaiah 40:31Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant, rhodiant, ac ni ddiffygiant.