Llyfr Deuteronomium 7:8
Ond o herwydd caru o’r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw o hono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharaoh brenhin yr Aipht.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 7
Cross References
Exodus 12:41Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ïe, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht.
Exodus 13:14A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.
Exodus 32:13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.
Deuteronomy 4:20Ond yr Arglwydd a’ch cymmerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haiarn, o’r Aipht, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.
Deuteronomy 4:37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hol; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aipht:
Deuteronomy 9:4Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu y tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di.