The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 7

1o ran sicred yw yr oruchiafiaeth a rydd Duw arnynt. Pan y’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru o hono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd llïosocach a chryfach na thydi;

2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.

3Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt; na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymmer ei ferch ef i’th fab dithau.

4Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ol i, fel y gwasanaethont dduwiau dïeithr; felly yr ennyn llid yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd.

5Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinystriwch eu hallorau, a thorrwch en colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.

6Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

7Nid am eich bod yn llïosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y’ch dewisodd; o herwydd yr oeddych chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd:

8Ond o herwydd caru o’r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw o hono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharaoh brenhin yr Aipht.

9Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlawn, yn cadw cyfammod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau;

10Ac yn talu y pwyth i’w gas, yn ei wyneb, gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.

11Cadw gan hynny y gorchymynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw, i’w gwneuthur.

12¶ A bydd, o achos gwrandaw o honoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfammod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di:

13Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlhâ di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.

14Bendigedig fyddi uwch law yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwrryw nac un fenyw yn anffrwythlawn, nac ym mhlith dy anifeiliaid di.

15Hefyd yr Arglwydd a dỳn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aipht, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.

16Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.

17Os dywedi yn dy galon, Llïosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?

18Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharaoh, ac i’r holl Aipht:

19Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.

20A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gaccwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti.

21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.

22A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.

23Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;

24Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gwr yn dy wyneb di, nes difetha o honot ti hwynt.

25Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymmeryd i ti; rhag dy faglu âg ef: oblegid ffieidd-dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw.

26Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymmunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef; oblegid ysgymmunbeth yw efe.

← Llyfr Deuteronomium 6Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 8 →

Study Llyfr Deuteronomium 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334