The Bible Software
bible.software › Llyfr Deuteronomium › Llyfr Deuteronomium 9 › Llyfr Deuteronomium 9:4

Llyfr Deuteronomium 9:4

Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu y tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di.

Beibl (1620)

In The King James Version

Speak not thou in thine heart, after that the LORD thy God hath cast them out from before thee, saying, For my righteousness the LORD hath brought me in to possess this land: but for the wickedness of these nations the LORD doth drive them out from before thee.

In Context

3Gwybydd gan hynny heddyw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.

5Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni y gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

Read all of Llyfr Deuteronomium 9

Cross References

Leviticus 18:24Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi:

Deuteronomy 8:17A dywedyd o honot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

Deuteronomy 12:31Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd-dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau.

Deuteronomy 18:12O herwydd ffieidd-dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di.

Ezekiel 36:32Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd DDUW; bydded hysbys i chwi; ty Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.

Romans 11:20Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, â thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Deuteronomium 9:4

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Deuteronomium 9:3Llyfr Deuteronomium 9Llyfr Deuteronomium 9:5 →