Llyfr Deuteronomium 8:7
Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A chadw orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.
8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olew-wydden, a mêl;
Read all of Llyfr Deuteronomium 8
Cross References
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Deuteronomy 11:9Ac fel yr estynoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
Deuteronomy 11:11Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd-dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o wlaw y nefoedd;
2 Kings 18:32Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y bydd-och fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. º
Psalms 65:9A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
Isaiah 5:1Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon: