The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 8

1Annog i ufudd-dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy. Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddyw; fel y byddoch fyw, ac y cynnyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw.

2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nas cedwit.

3Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnai efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn.

4Dy ddillad ni heneiddiodd am danat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.

5Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gwr ei fab ei hun.

6A chadw orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.

7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;

8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olew-wydden, a mêl;

9Gwlad yr hon y bwyttêi fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haiarn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.

10Pan fwyttêych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.

11Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchymynion, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw:

12Rhag wedi i ti fwytta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;

13A llïosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhâu o arian ac aur gennyt, ac amlhâu o’r hyn oll y sydd gennyt:

14Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio o honot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed;

15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirph tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;

16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

17A dywedyd o honot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfammod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.

19Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dïeithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddyw, gan ddifetha y’ch difethir.

20Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

← Llyfr Deuteronomium 7Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 9 →

Study Llyfr Deuteronomium 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334