Llyfr Deuteronomium 9:28
Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan o honi, O eisieu gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 9
Cross References
Exodus 32:12Paham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl.
Deuteronomy 1:27Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasâu o’r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aipht i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha.
Joshua 7:9Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?