Llyfr Exodus 32:12
Paham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:14Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnai i’w bobl.
Numbers 14:16O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch.
Deuteronomy 9:28Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan o honi, O eisieu gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.
Deuteronomy 32:26Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
Deuteronomy 32:36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.
Joshua 7:26A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.