Llyfr Deuteronomium 9
1Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt. Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddyw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchennogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;
2Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd am danynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac!
3Gwybydd gan hynny heddyw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.
4Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu y tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di.
5Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni y gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
6Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun, y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wàrgaled ydych.
7¶ Meddwl, ac nac anghofia, pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aipht, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.
8Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch difetha.
9Pan euthum i fynu i’r mynydd i gymmeryd y llechau meini, sef llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwytteais, a dwfr nid yfais.
10A rhoddes yr Arglwydd attaf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifenu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ol yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymmanfa.
11A bu, ym mhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r Arglwydd attaf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfammod.
12A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aipht: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchymynais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
13A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ydynt.
14Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt-hwy.
15A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfammod oedd yn fy nwylaw.
16Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchymynasai yr ARGLWYDD i chwi.
17A mi a ymaflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylaw, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid.
18A syrthiais ger bron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytteais fara, ac nid yfais ddwfr: o herwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef.
19(Canys ofnais rhag y sorriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch dinystrio chwi.) Etto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.
20Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.
21Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymmerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd.
22O fewn Taberah hefyd, ac o fewn Massah, ac o fewn Beddau y blys, yr oeddych yn digio yr Arglwydd.
23A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades-Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fynu, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.
24Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.
25A mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi.
26Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aipht â llaw gref.
27Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:
28Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan o honi, O eisieu gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.
29Etto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.