Llyfr Deuteronomium 9:3
Gwybydd gan hynny heddyw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 9
Cross References
Exodus 23:29Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhâu yn dy erbyn di.
Deuteronomy 4:24Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.
Deuteronomy 7:2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
Deuteronomy 7:22A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
Deuteronomy 9:6Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun, y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wàrgaled ydych.
Deuteronomy 20:4Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyd â chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.