Llyfr Esther 10
1A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr.
2A holl weithredoedd ei rym ef, a’i gadernid, a hysbysrwydd o fawredd Mordecai, â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia?
3Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.
Study Llyfr Esther 10
KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)