Llyfr Esther 10:3
Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:43Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail cerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.
Genesis 45:11Ac yno y’th borthaf; (oblegid pùm mlynedd o’r newyn a fydd etto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.
1 Samuel 23:17Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di, a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. º
Nehemiah 2:10Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
Esther 3:2A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd.
Daniel 5:16Ac mi a glywais amdanatti, y rnedri ddeongl deongliadau, a datod clymau: yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.