Llyfr Esther 2:9
A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai.
Cross References
Genesis 39:4A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
1 Kings 8:50A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phar iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caeth¬gludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy: º
Nehemiah 2:8A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.
Esther 2:12A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;)
Proverbs 16:7Pan fyddo ffyrdd gŵrr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.
Acts 7:10Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.