Llyfr Genesis 39:4
A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:3Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.
Genesis 24:2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
Genesis 33:8Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfum i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
Genesis 39:8Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.
Genesis 41:40Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn-gadair yn unig y byddaf fwy na thydi.
1 Samuel 2:26A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd.