Llyfr Exodus 10:1
etto efe a galon-galedir. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh: o herwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:20Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.
Exodus 7:4Ond ni wrendy Pharaoh arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.
Exodus 7:14¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharaoh; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.
Exodus 9:27¶ A Pharaoh a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol.
Exodus 10:20Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
Exodus 15:14Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.