Llyfr Exodus 10:9
A Moses a ddywedodd, A’n llangciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; a’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gwyl i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 50:8A holl dŷ Joseph, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.
Exodus 5:1Moses yn cwyno wrth Dduw. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.
Exodus 8:25¶ A Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad.
Exodus 13:6Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i’r Arglwydd.
Deuteronomy 31:12Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr- ddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;
Psalms 148:12Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.