Llyfr Exodus 5:1
Moses yn cwyno wrth Dduw. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:23A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.
Exodus 6:27Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
Exodus 7:16A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd attat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.
Exodus 8:17Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wïalen, ac a darawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aipht.
Exodus 9:1ac er hynny efe a galedir. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.