The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 12

1Ordinhâd y Pasc. Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aipht, gan ddywedyd,

2Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

3¶ Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymmerant iddynt bob un oen, yn ol teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.

4Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymmydog nesaf i’w dŷ a’i cymmer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.

5Bydded yr oen gennych yn berffeith-gwbl, yn wrryw, ac yn llwdn biwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymmerwch ef.

6A bydded y’nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef yn y cyfnos.

7A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.

8A’r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.

9Na fwyttêwch o hono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyd â’i draed a’i ymysgaroedd.

10Ac na weddillwch ddim o hono hyd y bore: a’r hyn fydd y’ngweddill o hono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

11¶ Ac fel hyn y bwyttêwch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylaw: bwyttêwch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.

12O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd.

13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.

14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn wyl i’r Arglwydd trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl trwy ddeddf dragywyddol.

15Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.

16Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd, a chymmanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwytty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.

17Cedwch hefyd wyl y bara croyw; o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenhedlaethau, trwy ddeddf dragywyddol.

18¶ Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd at ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwyttêwch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr.

19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.

20Na fwyttêwch ddim lefeinllyd: bwyttêwch fara croyw yn eich holl drigfannau.

21¶ A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymmerwch i chwi oen yn ol eich teuluoedd, a lleddwch y Pasc.

22A chymmerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.

23O herwydd yr Arglwydd a dramwya i daro yr Aiphtiaid: a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni âd i’r dinystrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinystrio,

24A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd.

25A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.

26A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?

27Yna y dywedwch, Aberth Pasc yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aipht, pan drawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.

28A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.

29¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.

30A Pharaoh a gyfododd liw nos, efe a’i holl weision, a’r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo.

31¶ Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwch, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch.

32Cymmerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.

33A’r Aiphtiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.

34A’r bobl a gymmerodd eu toes cyn ei lefeinio, a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.

35A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses; ac a fenthycciasant gan yr Aiphtiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.

36A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch y’ngolwg yr Aiphtiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a yspeiliasant yr Aiphtiaid.

37¶ A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, y’nghylch chwe chàn mil o wŷr traed, heb law plant.

38A phobl gymmysg lawer a aethant i fynu hefyd gyd â hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef dâ lawer iawn.

39A hwy a bobasant y toes a ddygasent allan o’r Aipht yn deisennau croyw; o herwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharottoisent iddynt eu hun luniaeth.

40¶ A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aipht, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd.

41Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ïe, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht.

42Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eil hoesoedd.

43¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasc: na fwyttâed neb dïeithr o hono.

44Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwytty o hono.

45Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta o hono.

46Mewn un tŷ y bwyttêir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ, ac na thorrwch asgwrn o hono.

47Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.

48A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.

49Yr un gyfraith fydd i’r prïodor, ac i’r dïeithr a arhoso yn eich mysg.

50Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.

51Ac o fewn corph y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.

← Llyfr Exodus 11Read In The App, Free →Llyfr Exodus 13 →

Study Llyfr Exodus 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940