Llyfr Exodus 12:28
A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 7:10¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.
Exodus 14:4A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharaoh, a’i holl fyddin; a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
Exodus 39:32¶ Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses felly y gwnaethant.
Exodus 39:43A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.
Numbers 1:54A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
Numbers 31:31A gwnaeth Moses ac Eleazar yr offeiriad megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.