Llyfr Exodus 39:43
A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 14:19Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:
Exodus 12:28A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.
Exodus 40:25Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr Arglwydd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
Leviticus 16:34A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
Joshua 22:6A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.
2 Samuel 6:18Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.