Llyfr Exodus 13:16
A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:1a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.
Exodus 12:13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.
Exodus 13:9A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.
Deuteronomy 5:15A chofia mai gwas a fuost ti y’ngwlad yr Aipht, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Sabbath.
Deuteronomy 6:8A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhagdalau rhwng dy lygaid.
Deuteronomy 11:18¶ Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylaw, a byddant yn rhagdalau rhwng eich llygaid: