Llyfr Exodus 13
1Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Cyssegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ym mysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
3¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
4Heddyw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.
5¶ A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.
6Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i’r Arglwydd.
7Bara croyw a fwyttêir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd â thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.
8¶ A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, O herwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aipht, y gwneir hyn.
9A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.
10Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.
11¶ A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti,
12Yna y neilldui i’r Arglwydd bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant.
13A phob cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o’th feibion a bryni di hefyd.
14A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.
15A phan oedd anhawdd gan Pharaoh ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwrryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o’m meibion a brynaf.
16A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.
17¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aipht.
18Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
19A Moses a gymmerodd esgyrn Joseph gyd âg ef: o herwydd efe a wnelsai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddïau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyd â chwi.
20¶ A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, y’nghwrr yr anialwch.
21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
22Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.