Llyfr Exodus 14:27
A Moses a estynodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Aiphtiaid a ffoisant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Aiphtiaid yng nghanol y môr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:21A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
Deuteronomy 11:4A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aipht, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ol, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt hyd y dydd hwn:
Joshua 24:7A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
Hebrews 11:29Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant.