Llyfr Exodus 14:8
A’r Arglwydd a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
Exodus 13:9A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.
Exodus 13:18Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
Leviticus 26:13Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, rhag eich bod yn gaeth-weision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
Deuteronomy 26:8A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aipht a llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofn mawr, ac âg arwyddion, ac â rhyfeddodau.
Joshua 11:20Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod âg Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.