Llyfr Exodus 4:21
A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.
Cross References
Genesis 6:3A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
Exodus 3:20Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.
Exodus 7:13A chalon Pharaoh a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.
Exodus 8:15Pan welodd Pharaoh fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
Exodus 9:35A chaledwyd calon Pharaoh, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith, megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.
Exodus 11:10A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharaoh: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.