Llyfr Exodus 16:35
A meibion Israel a fwyttasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanneddol: manna a fwyttasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
34Megis y gorchymynodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.
36A’r omer ydoedd ddegfed ran ephah.
Cross References
Numbers 32:13Ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni y’ngolwg yr Arglwydd.
Numbers 33:48A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
Deuteronomy 2:7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi; ni bu arnat eisieu dim.
Deuteronomy 8:4Dy ddillad ni heneiddiodd am danat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
Deuteronomy 34:1Clod Moses. A Moses a esgynodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisgah, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan,
Nehemiah 9:15Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.