Llyfr Exodus 16
1Cadw llonaid omer o hono ef. A hwy a symmudasant o Elim; a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.
2A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
3A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd y’ngwlad yr Aipht, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwytta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4¶ Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.
5Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymmaint ag a gasglant beunydd.
6A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.
7Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn?
8Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwytta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.
9¶ A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nês ger bron yr Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.
10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tu a’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmmwl.
11¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
12Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr y cewch fwytta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
13Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.
14A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynau crynion cyn faned a’r llwydrew ar y ddaear.
15Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwytta.
16¶ Hyn yw y peth a orchymynodd yr Arglwydd; Cesglwch o hono bob un yn ol ei fwytta: omer i bob un yn ol rhifedi eich eneidiau; cymmerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll.
17A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.
18A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ol ei fwytta.
19A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim o hono hyd y bore.
20Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gadaw a wnaeth rhai o hono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.
21A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ol ei fwytta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22¶ Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymmaint o fara, dau omer i un: a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Y fory y mae gorphwysfa Sabbath sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.
24A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.
25A dywedodd Moses, Bwyttêwch hwn heddyw; oblegid Sabbath yw heddyw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.
26Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Sabbath, ni bydd efe.
27¶ Etto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.
28A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynion a’m cyfreithiau?
29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.
30Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd.
31A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wỳn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32¶ A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd; Llanw omer o hono, i’w gadw i’ch cenhedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi âg ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aipht.
33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna, a gosod ef ger bron yr Arglwydd y’nghadw i’ch cenhedlaethau.
34Megis y gorchymynodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.
35A meibion Israel a fwyttasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanneddol: manna a fwyttasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.
36A’r omer ydoedd ddegfed ran ephah.