Llyfr Exodus 16:8
Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwytta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:9¶ A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nês ger bron yr Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.
Numbers 11:18Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.
Numbers 21:7¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.
Isaiah 32:6Canys coegwr a draetha goegni, a’i-. galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr AR¬GLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. º
Matthew 9:4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?
Luke 10:16Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.