Llyfr Numeri 11:18
Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:3A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd y’ngwlad yr Aipht, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwytta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
Exodus 19:10¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,
Numbers 11:1Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah. A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.
Numbers 14:2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!
Judges 21:2A daeth y bobl i dŷ DDUW, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gcrbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wyl.isant ag wylofain mawr: º
Acts 7:39Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft,