Llyfr Exodus 18:12
A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 4:4Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u brasder hwynt. A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 26:30Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.
Genesis 43:25Hwythau a barattoisant eu hanrheg erbyn dyfod Joseph ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwyttâent fara.
Exodus 24:5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
Leviticus 7:11Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offrymma efe i’r Arglwydd.