Llyfr Exodus 18:11
Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 1:10Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fynu o’r wlad.
Exodus 1:22A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
Exodus 5:7Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elant a chasglant wellt iddynt eu hunain.
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 14:8A’r Arglwydd a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
Exodus 15:11Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sanct eiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?