Llyfr Exodus 18:19
Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 39:2Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
Exodus 4:12Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
Exodus 18:15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.
Exodus 20:19A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandâwn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.
Deuteronomy 5:5(Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynech i’r mynydd,) gan ddywedyd,
Joshua 1:9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.