Llyfr Genesis 39:2
Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 21:22¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
Genesis 26:28Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;
Genesis 39:21¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.
Joshua 1:9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.
1 Samuel 16:18Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r ARGLWYDD sydd gydag ef. º
1 Samuel 18:28A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. º