Llyfr Exodus 19:24
A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fynu at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywededd wrthynt.
Cross References
Exodus 19:12A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.
Exodus 24:1Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
Leviticus 10:3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
Matthew 11:12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.
Luke 16:16Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd loan: er y pryd hwnnw y pregethir ttyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.
Romans 4:15Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd.