Llyfr Exodus 24:1
Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.
Cross References
Exodus 3:5Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: dïosg dy esgidiau oddi am dy draed; o herwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.
Exodus 19:9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
Exodus 19:24A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fynu at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.
Exodus 24:9¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.
Exodus 28:1Gwisgoedd meibion Aaron. A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.
Leviticus 10:1Esgus Aaron am ei throseddu. Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymmerasant bob un ei thusser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrymmasant ger bron yr Arglwydd dân dïeithr yr hwn ni orchymynasai efe iddynt.