Llyfr Exodus 7:1
Troi yr afon yn waed. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:15Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â’th enau di, a chyd â’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.
Exodus 16:29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.
2 Kings 6:32Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?
Ecclesiastes 1:10A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni.
John 10:35Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;)