Llyfr Exodus 2:15
Pan glybu Pharaoh y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharaoh, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
Genesis 25:4A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Ceturah.
Genesis 29:2Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair dïadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhâent y dïadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau y pydew.
Exodus 18:4Ac enw y llall oedd Eliezer: o herwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi, eb efe, ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharaoh.
1 Kings 19:1AC Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn Ix oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf. º
Proverbs 22:3Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.