Llyfr Exodus 2:17
Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynnorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddyw cyn gynted?
Cross References
Genesis 21:25Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
Genesis 29:10A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.