Llyfr Exodus 22:30
Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 13:12Yna y neilldui i’r Arglwydd bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant.
Leviticus 7:24Etto gwer burgyn, neu wer ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith, ond gan fwytta na fwyttêwch ef.
Leviticus 11:44O herwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Leviticus 12:3A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddïenwaediad ef.
Leviticus 22:8Ac na fwyttâed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd.
Deuteronomy 14:21¶ Na fwyttêwch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dïeithr fyddo yn dy byrth, a bwyttâed ef; neu gwerth ef i’r dïeithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.