Llyfr Lefiticus 11:44
O herwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 11
Cross References
Exodus 19:6A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
Exodus 22:30Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
Leviticus 10:3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
Leviticus 18:2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
Leviticus 19:3¶ Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabbathau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
Leviticus 19:10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gâd hwynt i’r tlawd ac i’r dïeithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.