Llyfr Exodus 24
1Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.
3¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
4A Moses a ysgrifenodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.
5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
6A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
7Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a’i darllenodd lle y clywai y bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandâwn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.
8A chymmerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.
9¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.
10A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.
11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwyttasant ac yfasant.
12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.
13A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.
14Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni attoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyd â chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued attynt hwy.
15A Moses a aeth i fynu i’r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.
16A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.
17A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, y’ngolwg meibion Israel.
18A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.