Llyfr Exodus 24:12
¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwyttasant ac yfasant.
13A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.
Cross References
Exodus 19:3A Moses a aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;
Exodus 24:15A Moses a aeth i fynu i’r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Exodus 32:15¶ A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du, hwy a ysgrifenasid o bob tu.
Deuteronomy 4:14¶ A’r Arglwydd a orchymynodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau, a barnedigaethau, i wneuthur o honoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.
Ezra 7:10Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.