Llyfr Exodus 31:18
¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 8:19Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
Exodus 24:18A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
Exodus 32:16A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau.
Exodus 34:28Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.
Deuteronomy 5:22¶ Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifenodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes attaf fi.
Deuteronomy 9:10A rhoddes yr Arglwydd attaf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifenu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ol yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymmanfa.